|
Pam fod y prawf wedi'i gyflwyno?
Mae dod yn ddinesydd Prydeinig neu benderfynu byw'n barhaol yn y wlad hon yn ddigwyddiad pwysig yn eich bywyd. Os ydych chi'n gwneud cais i frodori fel dinesydd Prydeinig neu gais am ganiatâd i aros yn barhaol, bydd angen i chi ddangos eich bod yn gwybod am fywyd yn y DU. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, mae yna ddwy ffordd o wneud hyn: trwy sefyll y Prawf Bywyd yn y DU neu drwy fynychu dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a dinasyddiaeth cyfunol.
Pwy sy'n gorfod sefyll y prawf?
Dylech sefyll y prawf os ydych chi'n gwneud cais i frodori fel dinesydd Prydeinig neu gais am ganiatâd i aros yn barhaol a bod lefel eich Saesneg yn ESOL Mynediad 3 neu uwch. Os yw lefel eich Saesneg yn is nag ESOL Mynediad 3, bydd angen i chi fynychu dosbarthiadau Saesneg (ESOL) a dinasyddiaeth. Mae'r rhan fwyaf o golegau addysg bellach neu gymunedol yn cynnal cyrsiau o'r fath. Dylech nodi nad oes rhaid i chi sefyll y prawf os ydych chi'n cwblhau'r cwrs ESOL a dinasyddiaeth cyfunol.
Os nad ydych chi'n siŵr a oes angen i chi sefyll y prawf, ffoniwch:
- Ymgeiswyr i aros yn barhaol: Biwro Ymholiadau Mewnfudo a Chenedligrwydd (Immigration and Nationality Enquiry Bureau) ar 0870 606 7766
- Ymgeiswyr am ddinasyddiaeth: Llinell gymorth Cenedligrwydd ar 0845 010 5200
Beth yw dosbarthiadau ESOL a dinasyddiaeth?
Mae dosbarthiadau ESOL a dinasyddiaeth yn eich helpu i wella'ch Saesneg a dysgu mwy am fywyd yn y DU. Gallwch fynychu'r dosbarthiadau hyn yn eich coleg addysg bellach neu gymunedol lleol. I ddysgu mwy am ddosbarthiadau ESOL a dinasyddiaeth, cysylltwch â'ch coleg lleol, neu ffoniwch Llinell gymorth Prawf Bywyd yn y DU ar 0800 154 245.
Sut ydw i'n gwybod beth yw lefel fy Saesneg?
Os nad ydych chi'n siŵr beth yw lefel eich Saesneg, gall eich coleg addysg bellach neu'ch canolfan learndirect leol wneud asesiad cychwynnol. Os ydych chi angen cymorth i ddod o hyd i rywle sy'n cynnig asesiad cychwynnol, ffoniwch Llinell gymorth Prawf Bywyd yn y DU ar 0800 154 245.
Ai dim ond fersiwn Saesneg o'r prawf sydd ar gael? Fersiwn Saesneg o'r prawf a gynigir fel arfer. Fodd bynnag, os ydych chi'n sefyll y prawf mewn canolfan yng Nghymru gallwch ofyn am fersiwn Cymraeg o'r prawf, neu os ydych chi'n sefyll y prawf yn yr Alban, gallwch ofyn am fersiwn Gaeleg yr Alban.
Pryd ddylwn i sefyll y prawf? Dylech sefyll y prawf cyn gwneud cais i frodori fel dinesydd Prydeinig neu cyn gwneud cais am ganiatâd i aros yn barhaol, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r holl ofynion eraill.
I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais i frodori fel dinesydd Prydeinig neu sut i wneud cais am ganiatâd i aros yn barhaol ewch i wefan y Swyddfa Gartref. Gallwch hefyd ffonio un o'r Llinellau cymorth:
- I gael mwy o wybodaeth am geisiadau i frodori fel dinesydd Prydeinig ffoniwch 0845 010 5200.
- I gael mwy o wybodaeth am geisiadau am ganiatâd i aros yn barhaol (anheddu) ffoniwch on 0870 606 7766.
Sut gallaf ddysgu mwy am y prawf? Mae adran 'Am y prawf' y wefan hon yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i sefyll y prawf. Os oes gennych fwy o gwestiynau ar ôl darllen yr adran hon, gallwch ffonio Llinell gymorth Prawf Bywyd yn y DU ar 0800 0154 245.
|