UK Border Agency logo   HTML version       

Wedi'r prawf

Pryd gaf i'r canlyniadau?
Byddwch chi'n derbyn eich canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn prawf. Bydd goruchwyliwr y prawf yn eich hysbysu a ydych wedi pasio ai peidio.

Oes yna farc pasio?
Mae'r marc pasio ar gyfer y prawf tua 75%.

Os ydw i'n pasio'r prawf, beth fydd yn digwydd nesaf?
Os ydych chi'n pasio'r prawf bydd goruchwyliwr eich prawf yn rhoi llythyr yn eich hysbysu am eich llwyddiant. Mae'r llythyr hwn yn cynnwys manylion am ddyddiad eich prawf, enw'r goruchwyliwr, lleoliad y ganolfan a rhif adnabod unigryw. Ar ôl cwblhau'ch cais am ddinasyddiaeth neu'ch cais am ganiatâd i aros yn barhaol, dylech amgáu'r llythyr yn eich hysbysu am eich llwyddiant ac anfon y ddau i'r Swyddfa Gartref. Bydd eich canolfan brawf hefyd yn anfon tystiolaeth o ganlyniadau'ch prawf i'r Swyddfa Gartref.

Beth sy'n digwydd os ydw i'n colli'r llythyr sy'n fy hysbysu am fy llwyddiant?
Mae'r llythyr sy'n eich hysbysu am eich llwyddiant yn bwysig iawn: dylech ei gadw mewn lle diogel nes eich bod yn barod i gyflwyno'ch cais am ddinasyddiaeth neu'ch cais am ganiatâd i aros yn barhaol. Os ydych chi'n colli'r llythyr hwn, ni fyddwch yn cael un newydd yn ei le. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu i ail sefyll y prawf.

Beth sy'n digwydd os ydw i'n methu'r prawf?
Bydd goruchwyliwr eich prawf yn eich hysbysu chi os ydych chi wedi methu'r prawf. Ni ddylech gyflwyno cais i frodori fel dinesydd Prydeinig neu gais i aros yn barhaol os yw hynny'n digwydd. Efallai fydd angen i chi rheoleiddio eich cais i aros trwy geisio am arhosiad pellach os yw eich arhosiad yn dod i ben neu yn agos i ddod i ben.

Dwi wedi methu'r prawf. Oes modd i mi ei ail sefyll?
Bydd rhaid i chi aros o leiaf 7 diwrnod cyn ail sefyll y prawf. Dylech ddarllen llawlyfr 'Life in the United Kingdom' eto a chwblhau'r ymarferiadau yn adran Paratoi ar gyfer y prawf y wefan hon, nes eich bod yn teimlo'n hyderus. Bydd y llythyr sy'n eich hysbysu am eich canlyniadau yn rhoi cyngor i chi ar ba adrannau o'r llawlyfr y dylech eu darllen eto. Ar ôl hynny, bydd angen i chi gysylltu â'ch canolfan brawf er mwyn archebu dyddiad ac amser newydd ar gyfer y prawf. Fel arall, os ydych chi'n teimlo mai lefel eich Saesneg oedd y rheswm i chi fethu'r prawf, hwyrach y gallwch ystyried mynychu dosbarthiadau Saesneg (ESOL) a dinasyddiaeth cyfunol yn eich coleg addysg bellach lleol. Byddech yn gwneud hynny yn lle ail sefyll y prawf.

Yn ôl i'r brig

Cefndir y prawf Archebu'r prawf Sefyll y prawf Wedi'r prawf