UK Border Agency logo   Text version       

Prawf Bywyd yn y DU

Mae'r wefan hon yn eich helpu i baratoi am y Prawf Bywyd yn y DU. Nid yw'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i sefyll y prawf. Mae'r wybodaeth honno ar gael yn llawlyfr 'Life in the United Kingdom: A Journey to Citizenship'. Rhaid i chi ddarllen ail argraffiad y llyfryn hwn. Dyma'r unig lyfr y bydd rhaid i chi ei brynu er mwyn paratoi am y prawf.

Nid oes rhaid i bawb sefyll Prawf Bywyd yn y DU. Ewch i 'Am y prawf' i weld a oes rhaid i chi ei sefyll. Gan ddibynnu ar lefel eich Saesneg, gallwch chi ddewis mynychu dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a dinasyddiaeth cyfunol.

Rhaid i chi ddefnyddio cyfrifiadur i sefyll y prawf, sydd ar gael mewn canolfannau Prawf Bywyd yn y DU achrededig yn y DU yn unig (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban).

Cefndir y prawf   Sefyll y prawf
 
Archebu'r prawf   Wedi'r prawf