Border & Immigration Agency logo   Text version       

Sefyll y prawf

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyrraedd y ganolfan brawf?
Ar ôl i chi gyrraedd eich canolfan brawf, bydd goruchwyliwr eich prawf yn cofnodi'ch enw llawn, eich dyddiad geni, eich cenedligrwydd, man a gwlad eich geni, eich cod post, eich cyfeirnod Swyddfa Gartref, a'ch rheswm dros sefyll y prawf. Caiff eich dogfen adnabod yn cynnwys llun ei gwirio, a bydd rhaid i chi dalu am y prawf (oni bai eich bod eisoes wedi talu amdano). Fe'ch mewngofnodir ar gyfrifiadur a bydd gennych amser i gwblhau ffug brawf ar eich cyfrifiadur cyn cychwyn y Prawf Bywyd yn y DU. Bydd goruchwyliwr y prawf yn eich hysbysu pryd i gychwyn y prawf ac yn dweud faint o amser sydd gennych i'w gwblhau.

Beth fydd cynnwys y prawf?
Mae'r prawf yn cynnwys cyfres o 24 cwestiwn cyfrifiadurol. Mae'n seiliedig ar 'Life in the United Kingdom: A Journey to Citizenship'.

Maen bwysig i chi ddarllen yr ail argraffiad o 'Life in the United Kingdom: A Journey to Citizenship'. Dyma'r unig lawlyfr swyddogol ar gyfer y prawf Bywyd yn y DU.

A fydd y prawf yn berthnasol i'r rhan o'r DU lle dwi'n byw?
Bydd y rhan fwyaf o gwestiynau'r prawf yn ymwneud â bywyd yn y DU, fel y'i disgrifir yn y llawlyfr 'Life in the United Kingdom'. Bydd y prawf hefyd yn cynnwys nifer o gwestiynau sy'n berthnasol i'r rhan o'r DU rydych chi'n byw ynddo Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.

Sut gallaf baratoi ar gyfer y prawf?
Dylech chi astudio penodau 2, 3, 4, 5 a 6 ail argraffiad y llawlyfr 'Life in the United Kingdom' yn ofalus iawn.

Edrychwch hefyd ar adran Paratoi ar gyfer y prawf y wefan hon. Os nad oes gennych gyfrifiadur gartref a'ch bod yn byw yn Lloegr, dylech gysylltu ag UK online i gael gwybodaeth am ganolfannau lleol sy'n cynnig mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, mae'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd lleol yn cynnig mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn ddi-dâl neu'n rhad.

Peidiwch â rhuthro i brynu 'canllawiau astudio' ar gyfer prawf y DU sydd ar werth mewn siopau llyfrau ac ar y we. Nid ydynt wedi'u cymeradwyo'n swyddogol, er y gallai rhai ohonynt awgrymu hynny. Oherwydd hynny, efallai na fyddan nhwn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnoch. Efallai y byddai rhai yn eich camarwain trwy awgrymu y dylech gofio atebion i gwestiynau ar eich cof ac nad yw'r cwestiynau hyn yn ddilys nac yn debyg o ymddangos yn eich prawf.

Faint o amser sydd gennyf i gwblhau'r prawf?
Bydd gennych 45 munud i ateb 24 cwestiwn. Mae hyn yn rhoi digon o amser i chi ddewis eich atebion a darllen drostyn nhw cyn y diwedd. Nid oes rhaid i chi frysio er mwyn gorffen y prawf yn gyflym; cofiwch ddefnyddio'r holl amser sydd ar gael. Os oes gennych gyflwr meddygol penodol, hwyrach y caniateir mwy o amser i chi gwblhau'r prawf. Rhaid i chi hysbysu'r ganolfan brawf am unrhyw gyflwr meddygol wrth archebu'r prawf.

Pa fath o gwestiynau sydd yn y prawf?
Ewch i'r Tiwtorial llywio i ymarfer llywio'ch ffordd o amgylch y system brawf ac i ymarfer ateb y gwahanol fathau o gwestiynau. Cofiwch fod croeso i chi gwblhau'r tiwtorial gymaint o weithiau ag y dymunwch. Dylech deimlo'n gyfforddus am ateb cwestiynau ar y cyfrifiadur. Gallwch hefyd sefyll ffug brawf yn eich canolfan brawf leol cyn sefyll Prawf Bywyd yn y DU.

Yn ôl i'r brig

Cefndir y prawf Archebu'r prawf Sefyll y prawf Wedi'r prawf