|
Lle gallaf sefyll y prawf? Mae dros 100 o ganolfannau ledled y wlad yn cynnal y prawf mewn awyrgylch croesawgar a chyfeillgar. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ganolfannau dysgu sy'n cynnig cyfle i chi wella'ch sgiliau iaith neu gyfrifiadurol. I gael gwybod lle mae'ch canolfannau prawf agosaf, ewch i adran Dod o hyd i ganolfan brawf y wefan hon.
Sut gallaf archebu prawf? Dylech ffonio neu ymweld â chanolfan brawf yn ystod oriau agor. Bydd y ganolfan brawf yn cynnig lle i chi yn un o'i sesiynau prawf rhwng 1 a 4 wythnos ar l i chi gyflwyno'ch cais. Bydd rhaid i chi aros o leiaf 7 diwrnod rhwng archebu'r prawf a'i sefyll.
Pryd mae canolfannau prawf ar agor? Mae canolfannau'n cynnal y profion ar adegau gwahanol. Dylech gysylltu â'ch canolfan leol i gael gwybod ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n cynnal y sesiynau prawf.
Beth yw cost y prawf a sut gallaf dalu amdano? Cost y prawf yw £34. Fodd bynnag, mae Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) wedi nodi'n ddiweddar bod angen talu TAW ar y ffi felly mae'r gost yn debygol o godi yn y dyfodol agos.
Sut gallaf ganslo neu ohirio prawf? Os oes rhaid i chi ganslo neu ohirio eich prawf, rhaid i chi hysbysu'ch canolfan brawf. Os ydych chi'n rhoi llai na 7 diwrnod o rybudd, hwyrach y bydd y ganolfan brawf yn codi ffi weinyddol o £10. Dylech gysylltu â'r ganolfan brawf i gadarnhau'r drefn cyn archebu'ch prawf.
A oes unrhyw ofynion adnabod?
Oes, bydd rhaid i chi gyflwyno dogfen adnabod yn cynnwys llun i oruchwyliwr y prawf yn y ganolfan. Rhaid i chi gyflwyno un o'r dogfennau adnabod canlynol (er mwyn sicrhau bod y ddogfen yn cael ei derbyn, rhaid iddi fod yn amlwg mai chi yw'r person yn y llun):
- pasbort (o'ch mamwlad)
- trwydded yrru â llun, llawn neu amodol
- un o ddogfennau teithio canlynol y Swyddfa Gartref: Dogfen Deithio Gonfensiwn (Covention Travel Document - CTD), Dogfen Dystysgrif Adnabod (Certificate of Identity Document - CID) neu Ddogfen Person heb Ddinasyddiaeth (Stateless Person Document - SPD)
- Dogfen Statws Mewnfudo (Immigration Status Document), sy'n cael ei chadarnhau gan ddogfen Caniatâd i Breswylio yn y DU (UK Residence Permit), ac yn cynnwys llun o'r deilydd.
Bydd y swyddog yn y ganolfan brawf yn gofyn am eich cod post hefyd, felly hwyrach y dylech fynd â dogfen sy'n cynnwys y wybodaeth honno.
A yw canolfannau prawf yn darparu ar gyfer anghenion pobl anabl? Mae canolfannau prawf yn gallu cynnig y prawf mewn fformat sy'n cyfateb i'ch anghenion arbennig chi. Dylech hysbysu goruchwyliwr eich prawf am yr anghenion hyn wrth archebu'ch prawf. Bydd hyn yn galluogi'r ganolfan brawf i wneud unrhyw drefniadau a rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch i sicrhau nad yw'ch anabledd yn effeithio ar ganlyniad eich prawf. Gallwch hefyd ddysgu am ddewisiadau defnyddioldeb y prawf yn Tiwtorial Llywio y wefan hon. Mae canllawiau pellach i ymgeiswyr ag anableddau difrifol ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.
Sut gallaf gael gwybodaeth am gyfleusterau'r canolfannau prawf? Ewch i'r adran Dod o hyd i ganolfan brawf am wybodaeth bellach am gyfleusterau canolfannau, fel cyfleusterau parcio a'r ieithoedd sy'n cael eu siarad gan staff. Hwyrach na fydd pob canolfan brawf yn cynnig yr un cyfleusterau a gwasanaethau, felly cofiwch gysylltu â'r ganolfan o'ch dewis chi i sicrhau bod ganddi'r cyfleusterau priodol.
Dydw i ddim yn gyfarwydd â chyfrifiaduron. A yw'r prawf ar gael mewn fformatau eraill? Rhaid i chi ddefnyddio cyfrifiadur mewn canolfan brawf swyddogol i sefyll y prawf. Mae Hyfforddiant ar ddefnyddio llygoden a Hyfforddiant ar ddefnyddio bysellfwrdd ar gael er mwyn rhoi ymarfer i chi ar ddefnyddio cyfrifiadur. Mae'r Tiwtorial Llywio yn eich galluogi i ddysgu mwy am ddefnyddio'r prawf.
Sut gallaf gael cymorth i ddefnyddio cyfrifiadur? Mae canolfannau UK online yn ceisio sicrhau bod cyfrifiaduron ar gael i bawb yn Lloegr o fewn cyrraedd cyfleus, ac maen cynnig cyngor ar sut i'w defnyddio nhw. Gallwch chwilio am eich canolfan agosaf ar-lein. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, mae'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd lleol yn cynnig mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn ddi-dâl neu'n rhad.
|