UK Border Agency logo   Text version       

Archebu'r prawf

Lle gallaf sefyll y prawf?
Mae dros 100 o ganolfannau ledled y wlad yn cynnal y prawf mewn awyrgylch croesawgar a chyfeillgar. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ganolfannau dysgu sy'n cynnig cyfle i chi wella'ch sgiliau iaith neu gyfrifiadurol. I gael gwybod lle mae'ch canolfannau prawf agosaf, ewch i adran Dod o hyd i ganolfan brawf y wefan hon.

Sut gallaf archebu prawf?
Dylech ffonio neu ymweld â chanolfan brawf yn ystod oriau agor. Bydd y ganolfan brawf yn cynnig lle i chi yn un o'i sesiynau prawf rhwng 1 a 4 wythnos ar l i chi gyflwyno'ch cais. Bydd rhaid i chi aros o leiaf 7 diwrnod rhwng archebu'r prawf a'i sefyll.

Pryd mae canolfannau prawf ar agor?
Mae canolfannau'n cynnal y profion ar adegau gwahanol. Dylech gysylltu â'ch canolfan leol i gael gwybod ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n cynnal y sesiynau prawf.

Beth yw cost y prawf a sut gallaf dalu amdano?
Cost y prawf yw £33.28. Fodd bynnag, mae Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) wedi nodi'n ddiweddar bod angen talu TAW ar y ffi felly mae'r gost yn debygol o godi yn y dyfodol agos.

Sut gallaf ganslo neu ohirio prawf?
Os oes rhaid i chi ganslo neu ohirio eich prawf, rhaid i chi hysbysu'ch canolfan brawf. Os ydych chi'n rhoi llai na 7 diwrnod o rybudd, hwyrach y bydd y ganolfan brawf yn codi ffi weinyddol o £10. Dylech gysylltu â'r ganolfan brawf i gadarnhau'r drefn cyn archebu'ch prawf.

A oes unrhyw ofynion adnabod?
Oes, bydd rhaid i chi gyflwyno dogfen adnabod yn cynnwys llun i oruchwyliwr y prawf yn y ganolfan. Rhaid i chi gyflwyno un o'r dogfennau adnabod canlynol (er mwyn sicrhau bod y ddogfen yn cael ei derbyn, rhaid iddi fod yn amlwg mai chi yw'r person yn y llun):

  • pasbort (o'ch mamwlad) - gall y ddogfen fod wedi dyddio
  • trwydded yrru â llun, llawn neu amodol - rhaid i'r ddogfen fod mewn dyddiad
  • un o ddogfennau teithio canlynol y Swyddfa Gartref: Dogfen Deithio Gonfensiwn (Convention Travel Document - CTD), Dogfen Dystysgrif Adnabod (Certificate of Identity Document - CID) neu Ddogfen Person heb Ddinasyddiaeth (Stateless Person Document - SPD) - rhaid i'r ddogfen fod mewn dyddiad
  • Dogfen Statws Mewnfudo (Immigration Status Document), sy'n cael ei chadarnhau gan ddogfen Caniatâd i Breswylio yn y DU (UK Residence Permit), ac yn cynnwys llun o'r deilydd - gall y ddogfen fod wedi dyddio
Bydd y swyddog yn y ganolfan brawf yn gofyn am eich cod post hefyd, felly hwyrach y dylech fynd â dogfen sy'n cynnwys y wybodaeth honno.

A yw canolfannau prawf yn darparu ar gyfer anghenion pobl anabl?
Mae canolfannau prawf yn gallu cynnig y prawf mewn fformat sy'n cyfateb i'ch anghenion arbennig chi. Dylech hysbysu goruchwyliwr eich prawf am yr anghenion hyn wrth archebu'ch prawf. Bydd hyn yn galluogi'r ganolfan brawf i wneud unrhyw drefniadau a rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch i sicrhau nad yw'ch anabledd yn effeithio ar ganlyniad eich prawf. Gallwch hefyd ddysgu am ddewisiadau defnyddioldeb y prawf yn Tiwtorial Llywio y wefan hon. Mae canllawiau pellach i ymgeiswyr ag anableddau difrifol ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.

Sut gallaf gael gwybodaeth am gyfleusterau'r canolfannau prawf?
Ewch i'r adran Dod o hyd i ganolfan brawf am wybodaeth bellach am gyfleusterau canolfannau, fel cyfleusterau parcio a'r ieithoedd sy'n cael eu siarad gan staff. Hwyrach na fydd pob canolfan brawf yn cynnig yr un cyfleusterau a gwasanaethau, felly cofiwch gysylltu â'r ganolfan o'ch dewis chi i sicrhau bod ganddi'r cyfleusterau priodol.

Dydw i ddim yn gyfarwydd â chyfrifiaduron. A yw'r prawf ar gael mewn fformatau eraill?
Rhaid i chi ddefnyddio cyfrifiadur mewn canolfan brawf swyddogol i sefyll y prawf. Mae Hyfforddiant ar ddefnyddio llygoden a Hyfforddiant ar ddefnyddio bysellfwrdd ar gael er mwyn rhoi ymarfer i chi ar ddefnyddio cyfrifiadur. Mae'r Tiwtorial Llywio yn eich galluogi i ddysgu mwy am ddefnyddio'r prawf.

Sut gallaf gael cymorth i ddefnyddio cyfrifiadur?
Mae canolfannau UK online yn ceisio sicrhau bod cyfrifiaduron ar gael i bawb yn Lloegr o fewn cyrraedd cyfleus, ac maen cynnig cyngor ar sut i'w defnyddio nhw. Gallwch chwilio am eich canolfan agosaf ar-lein. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, mae'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd lleol yn cynnig mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn ddi-dâl neu'n rhad.

Yn ôl i'r brig

Cefndir y prawf Archebu'r prawf Sefyll y prawf Wedi'r prawf